Er mwyn sicrhau llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 rwy’n gofyn i chi fy nghefnogi i fel eich dewis i fod yn rhan o dîm ymgeiswyr Plaid Cymru i Wynedd Maldwyn.​
Rydym oll yn dioddef o diffygion Llafur mewn llywodraeth. Nid yw rheoli dirywiad yn ganlyniad anochel o lywodraethu Cymru. Y ffordd orau i sicrhau newid yw drwy lywodraeth Plaid Cymru.
Mae’r amser i ddal Llafur i gyfri wedi hen fynd; bellach, dim ond llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 wneith y tro.​
To secure a Plaid Cymru government in 2026, I am asking you to support me as your choice to be part of the Plaid Cymru candidate team for Gwynedd Maldwyn.
We’re all suffering from Labour's shortcomings in government. Managing decline is not an inevitable outcome of governing Wales. The best way to ensure change is through a Plaid Cymru government.
​
The time to hold Labour to account is long gone; by now, only a Plaid Cymru government in 2026 will do.​​
Fel ymgeisydd i restr Plaid Cymru ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026, etholaeth Gwynedd Maldwyn rwy’n credu fod Plaid Cymru angen tîm sy’n cyfuno profiad, egni ffres, a gwreiddiau cymunedol dwfn. Dydw i ddim yma i gymryd lle - rydw i yma i gryfhau. Gadewch i ni adeiladu tîm sy’n adlewyrchu Gwynedd Maldwyn gyfan.
Mae gen i gred ddiffuant yng ngrym ein cymunedau ac rwy’n gwybod bod newid go iawn yn dod o'r gwaelod i fyny. Os ydych chi’n credu bod ein cymunedau angen llais cryf yn y Senedd – ystyriwch fy rhoi fel un o’ch tri uchaf.
Gwn fod gennyf y gallu a’r angerdd i fod yn aelod blaenllaw o dîm ymgeiswyr Plaid Cymru Gwynedd Maldwyn 2026.

As a candidate for the Plaid Cymru list for the 2026 Senedd Cymru election in the constituency of Gwynedd Maldwyn, I believe that Plaid Cymru needs a team that combines experience, fresh energy, and deep community roots. I'm not here to replace - I'm here to strengthen. Let's build a team that reflects the whole of Gwynedd Maldwyn.​
I have a sincere belief in the power of our communities, and I know that real change comes from the bottom up. If you believe that our communities need a strong voice in the Senedd - consider putting me as one of your top three.​
I know that I have the ability and passion to be a leading member of the Plaid Cymru Gwynedd Maldwyn 2026 candidate team.

​Rwy’n Gynghorydd Sir ar Gyngor Gwynedd, yn cynrychioli ward Gogledd Pwllheli. Fi yw cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd, is-gadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd ac rwy’n aelod o’r Pwyllgor Cynllunio. Rwyf hefyd wedi bod yn gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ac yn parhau yn aelod.
​
Ers fy ethol rydym wedi denu buddsoddiad dechreuol o £4 miliwn yn uniongyrchol i’r Stryd Fawr Pwllheli drwy fenter gymunedol Menter y Tŵr. Rydym wedi cynyddu'r nifer o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn y dref. Rydym wedi denu swyddi drwy ddatblygu Cei’r Gogledd a denu buddsoddiad mwy megis archfarchnad Aldi i Bwllheli. Mae buddsoddiad o dros £5 miliwn wedi ei ddynodi i Harbwr Pwllheli a dros £140,000 i adnewyddu Cei’r Gogledd. Mae hyn oll yn dangos ychydig o’r hyn sy’n bosib mewn amser gymharol fyr.
Yn fy nghyfnod ar Gyngor Gwynedd rwyf wedi gwneud y mwyaf o’r cyfle i gael y canlyniadau gorau i Bwllheli ac i Wynedd. Rwy’n edrych ymlaen at gael gwneud yr un peth ar ran Gwynedd a Maldwyn gyfan yn y Senedd.
​​
I’m a member of Cyngor Gwynedd and am the County Councillor representing North Pwllheli. I’m Chair of Gwynedd’s Pensions Committee, Vice-chair of the Plaid Cymru Gwynedd Group and I’m a member of the Planning Committee. I have also been Chair of the Community Scrutiny Committee and remain a member.
​
Since being elected, we have attracted an initial investment of £4 million directly to Pwllheli High Street through the Menter y Tŵr community enterprise. We’ve increased the number of social housing and affordable housing in the town. We have attracted jobs through developments on the North Quay and attracted larger investment such as an Aldi supermarket to Pwllheli. An investment of over £5 million has been earmarked for Pwllheli Harbour and over £140,000 to renovate the North Quay. All of this shows a little of what is possible in a relatively short time.
During my time at Cyngor Gwynedd, I’ve made the most of opportunities to get the best results for Pwllheli and Gwynedd. I’m looking forward to doing the same thing on behalf of the whole of Gwynedd Maldwyn at the Senedd.
​

Gobeithio y byddwch chi’n fy nghefnogi i, Elin Hywel, i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru i etholiad Senedd Cymru 2026.
​
Diolch i chi am roi eich amser ac egni i’r broses o ddewis ymgeiswyr. Diolch am eich cefnogaeth barhaus i Blaid Cymru.
I hope that you will support me, Elin Hywel, to be a Plaid Cymru candidate for the 2026 Senedd Cymru election.
​​
Thank you for giving your time and energy to the process of selecting candidates. Thank you for your continued support of Plaid Cymru.

Mi ydw i yn hynod falch o Fenter y Tŵr!
Pwrpas y fenter yw cefnogi datblygiad llwyddiannus o gymuned ac economi Pwllheli. Mae’r siwrne wedi bod yn drawsnewidiol, gyda chefnogaeth a gwaith caled ein cymuned wrth wraidd pob llwyddiant.
Dwi’n teimlo yn ffodus iawn o fod wedi cael bod yng nghanol y bwrlwm ers y cychwyn cyntaf
I am extremely proud of Menter y Tŵr!
​
The purpose of Menter y Tŵr is to support the successful development of the Pwllheli community and its economy. The journey has been transformative, with the support and hard work of our community at the heart of every success.
​
I feel very lucky to have been in the middle of the hustle and bustle since the very beginning.